SL(5)203 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2018

Cefndir a Phwrpas

Cyflwynodd Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (“Deddf 2003”) fframwaith cyfreithiol y caiff llywodraeth leol ymgymryd â gwariant cyfalaf oddi mewn iddo.  Caiff Gweinidogion Cymru reoleiddio’r gweithgarwch hwnnw drwy reoliadau.  Gwnaed darpariaeth o'r fath gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (OS 2003/3239) ("Rheoliadau 2003") sy'n darparu'r gyfundrefn reoleiddiol ar gyfer cyllid cyfalaf llywodraeth leol ac arferion cyfrifyddu sydd i'w dilyn gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae Rheoliadau 2003 wedi'u diwygio sawl gwaith ers dod i rym.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud cyfres o ddiwygiadau pellach i Reoliadau 2003, y bydd nodiadau'r Memorandwm Esboniadol yn "llacio'r cyfyngiadau presennol o ran trafodion cyfalaf benthyciad, trafodion cyfalaf cyfranddaliadau  a bondiau penodol sy'n gosod awdurdodau lleol yng Nghymru ar sail gyfatebol i gymheiriaid yn Lloegr."

Mae'r diwygiadau penodol yn cynnwys y canlynol:

·         Gofyniad i drafodion gwarantoli gael eu trin fel trefniadau credyd at ddibenion adran 7 o Ddeddf 2003 a gwerth unrhyw ystyriaeth a gafwyd o ganlyniad i drafodyn gwarantoli gan awdurdod lleol i gael ei drin fel derbyniad cyfalaf;

·         Tynnu'r gofyniad am wariant gan awdurdodau lleol ar gaffael cyfalaf benthyciad i gael ei drin fel gwariant cyfalaf; ac

·         eithrio gwariant ar gaffael mathau penodol o gyfalaf cyfranddaliadau (mewn cynlluniau buddsoddi ar y cyd) rhag cael ei drin fel gwariant cyfalaf.

Y weithdrefn

Negyddol.

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r Rheoliadau hyn yn diffinio "cronfa'r farchnad arian" drwy gyfeirio at ddeddfwriaeth yr UE, hy Cyfarwyddeb 2009/65/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 13 Gorffennaf 2009 ar gydlynu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol sy'n ymwneud ag ymrwymiadau ar gyfer buddsoddiad ar y cyd mewn gwarantau trosglwyddadwy.

Felly, bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried priodoldeb parhaus y diffiniad hwn yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

3 Ebrill 2018